- Beth ydi DC
- Arolwg blasu
- Cymorth i'ch busnes
- Rhai syniadau
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Newyddion
- Amdanom
- Cysylltwch â ni
Pa mor gynaliadwy yw Eisteddfod yr Urdd?
Yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru eleni, bu’r mudiad yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn wyrdd a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond mae mwy i gynaliadwyedd na bod yn wyrdd. Mae’n bwysig ystyried ystod eang o bethau - megs pobl, cymdeithas, iaith, diwylliant, arian ac elw - mewn ffordd gytbwys. Er mwyn gweld y darlun ehangach yma, gofynnodd yr Urdd i wasanaeth SBBS i gynnal ein Prawf Iechyd Cynaliadwyedd gyda’r Eisteddfod. Cyhoeddwyd yr adroddiad mewn cynhadledd i’r wasg ar y Maes ar Ddydd Llun yr wyl, y 26ain o Fai, ym mhresenodleb Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:
"Rydym yn ddiolchgar i Synnwyr Busnes- Business Sense am wneud yr asesiad hwn ar ein rhan. Mae sicrhau bod yr Urdd yn gallu datblygu’n gynaliadwy i’r dyfodol wrth galon ein gwaith. Byddwn yn mynd ati i ystyried yr argymhellion a’u gweithredu wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol."
Ceir mwy o wybodaeth am gynnwys yr adroddiad, ac ymateb yr Urdd iddo yn eu datganiad i’r wasg.
Cliciwch yma i ddarllen fersiwn talfyredig o’r addroddiad
Dewch i’n cynhadledd i gael eich hysbrydoli gan gwmnïau sydd wedi profi llwyddiant wrth fynd i’r afael a datblygu cynaliadwy
Mae Synnwyr Busnes – Business Sense wedi ymyno â’r Sefydliad dros Faterion Cymreig a Sefydliad y Cyfarwyddwyr i drefnu cynhadledd:
DATBLYGU CYNALIADWY YN GWNEUD SYNNWYR BUSNES
Dydd Iau 12 Mehefin 2008
Gwesty'r Parc (Thistle), Plas-y-Parc, Caerdydd
Bydd y gynhadledd yn cael ei gadeirio gan Peter Davies, Commissionydd Ddatblygu Cynaliadwy Cymru, ac mae’r siaradwyr yn cynnwys:
- Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Synnwyr Busnes - Business Sense
- Dr Stewart Davies, Cyfarwyddwr Reolwr, Serco Integrated Services a Chomisiynydd Busnes yn y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy
- Angharad Davies, Pennaeth, Cysylltiadau Cyhoeddus a Pholisi, BT
- Rhiannon Rowley, Rheolwr Gyfarwyddwr, Abaca
- Jan Cliff, Cyfarwyddwr, Sundance Renewables
- Chris Hillyer, Cyfarwyddwr, Twelfth Man Marketing
- Phil Cooper, Venture Wales
- Naresh Giangrande, Trefi Trawsnewid
- Frank O'Connor, Canolfan Ecodesign Cymru
- David Boomer, Pennaeth, Effeithlonrwydd Ynni a Newid yn yr Hinsawdd, Uned Polisi Sefydliad y Cyfarwyddwyr,
Cost y gynhadledd a chinio yw £85 (£75 i aelodau'r IWA a’r IoD) a chost cino’r IoD yn unig yw £20 (£15 i aelodau'r IWA ac IoD)
Y Sefydliad dros Faterion Cymreig sy’n gofalu am y drefniadaeth, felly os oes gennych ddiddoedeb mewn mynychu rhowch alwad iddynt ar 029 20666606, ebostiwch wales@iwa.oeg.uk neu ewch i’w gewfan www.iwa.org.uk.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yno!
YR EISTEDDFOD YN YMATEB I HER CYNALIADWYEDD
Gofynnodd i’r Eisteddfod i’r Prosiect Synnwyr Busnes gynnal gwerthusiad o’i pherfformiad ar hyn o bryd mewn perthynas â chynaliadwyedd, yn cynnwys materion yn ymwneud â gwastraff ac ailgylchu a hefyd ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Cynhaliodd Synnwyr Busnes dderbyniad llwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint i gyhoeddi canlyniadau Gwerthusiad Cynaliadwyedd yr Eisteddfod. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dafydd Wigley ac roedd Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog, Elfed Roberts Prif Weithredwr yr Eisteddfod a nifer o ACau a ASau. Pwysleisiodd Yr Athro Siân Hope ymrwyimiad y brifysgol i ragoriaeth ac i gydweithio gyda busnesau a’r gymuned er mwyn dyfodol cynaliadwy.

Dr Einir Young, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy, Prifysgol Cymru Bangor a chyfarwyddwr Synnwyr Busnes yn rhannu canlyniadau gwerthusiad cynaliadwyedd yr Eisteddfod. Dywedodd Dr Young:
"Mae stori bositif iawn wedi deillio o’r gwerthusiad. Ar y cyfan sgoriodd yr Eisteddfod yn arbennig o dda ar yr elfennau cymdeithasol, diwylliannol, busnes ac amgylcheddol. Er bod angen am lawer o gydweithio a syniadau arloesol ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth a defnydd ynni, mae llawer mwy i’w ddathlu am gyfraniad yr Eisteddfod i gynaliadwyedd Cymru. Fel Cenedl, dylem fod yn falch iawn o’r Eisteddfod."
Mwy am yr Gwerthusiad Cynaliadwyedd yr Eisteddfod »
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: "Mae’r adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran asesu’r modd y mae’r Eisteddfod yn ymateb i’r her sydd ynghlwm wrth gynaliadwyedd. Mae’r canlyniadau’n galonogol tu hwnt ond mae’n rhaid yn awr edrych i’r dyfodol a datblygu ymhellach yn y maes hwn."

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones yn gefnogol: "Gwn fod byw ein bywydau mewn modd mwy cynaliadwy yn her sylweddol. Credaf hefyd fod pobl Cymru yn awyddus i ymateb yn bositif i'r her hon, ar sail ein gwerthoedd cyffredin a'n hymdeimlad cryf o hunaniaeth gymunedol...Dyna pam fod yr adroddiad hwn mor bwysig. Mae'n dangos mor werthfawr yw cael arweiniad clir er mwyn helpu pawb i weithredu'n bositif ac yn ymarferol er mwyn gwella eu cymunedau"



RHES GEFN
Gruff Edwards, Iwan Jones, Michelle Jones i gyd o Synnwyr Busnes
RHES FLAEN
Dr Einir Young, Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog, Jennie Jones (Synnwyr Busnes), Yr Athro Siân Hope, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Bangor, Dafydd Wigley
Islowytho'r Newyddion yn Llawn 
Ennillwyr Gwobr 'Cyfraniad Cymunedol' a noddwyd gan Synnwyr Busnes Busnes Sense yng nghystadleuthau Gwobrau Busnes Gwynedd
Galeri Cyf. oedd ennillwyr gwobr Synnwyr Busnes mewn noson gala yng Ngwesty'r Celt Caernarfon. Dyma Gwion yn derbyn y wobr ar ran Galeri gan Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Synnwyr Busnes.
Nid gair 'posh' am ail-gylchu yw cynaliadwyedd. Mae'n golygu rhoi ystyriaeth gytbwys i bobl a'ch cymuned ac i'r amgylchedd yn ogystal a gwneud elw. Mae Galeri yn enghraifft wych o fusnes sydd a'i galon yn y gymuned a mentrau megis pas Pobl Peblig yn arwain y ffordd i eraill.
Os ydych chi'n rhedeg busnes bach neu ganolig ei faint, mae'n debyg fod gennych nifer o arferion cynaliadwy yn barod - a'n neges ni yw y gallech elwa ohonynt. Mae dangos eich bod yn rhedeg eich busnes mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i bobl a'r blaned yn ffordd ardderchog o gael staff gwych, cyflenwyr hapus a chwsmeriaid ffyddlon. Rydym ni yma i ddangos ichi sut, gyda chymorth arbennigol am ddim.



