- Beth ydi DC
- Arolwg blasu
- Cymorth i'ch busnes
- Rhai syniadau
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Newyddion
- Amdanom
- Cysylltwch â ni
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymateb i’r her sydd ynghlwm wrth gynaliadwyedd trwy alw ar arweiniad ac arbenigedd y tîm Synnwyr Busnes.
Gofynnodd i’r Eisteddfod i’r Prosiect Synnwyr Busnes gynnal gwerthusiad o’i pherfformiad ar hyn o bryd mewn perthynas â chynaliadwyedd, yn cynnwys materion yn ymwneud â gwastraff ac ailgylchu a hefyd ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
GWERTHUSIAD CYNALIADWYEDD YR EISTEDDFOD: CRYNODEB O’R PRIF GANFYDDIADAU
Daw mwy na 150,000 o ymwelwyr i’r Eisteddfod bob blwyddyn, ac mae dros 90% ohonynt yn teithio mewn car, sy’n golygu cyfanswm o 7,000 neu fwy o geir bob dydd. I ddiwallu’u hanghenion mae'r Eisteddfod yn defnyddio 300,000 galwyn o ddŵr yn ystod yr wythnos sy’n cyfrannu at y 400,000 galwyn o garthffosiaeth a gynhyrchir. Maent hefyd yn cyfrannu at y 65.7 tunnell o sbwriel sy’n cael ei gasglu. Nid yw’n syndod bod yr Eisteddfod yn denu sylw grwpiau pwyso amgylcheddol, fel y gwnaeth yn 2006 gyda’r pryderon a godwyd gan gynghrair ‘Stop Climate Chaos’.
Ond beth am elfennau eraill cynaliadwyedd? Mewn ymateb i her amgylcheddol cynhaliwyd gwerthusiad o dair prif elfen cynaliadwyedd (pobl, planed, elw) a chynhyrchwyd adroddiad yn Ebrill 2007.
Sgoriodd yr Eisteddfod yn uchel iawn ar ochr gymunedol a diwylliannol ei gweithgareddau ac mae effeithiau cadarnhaol y gweithgaredd cymunedol yn ymestyn y tu hwnt i wythnos yr Eisteddfod. Daethom i’r casgliad ei bod yn annhebygol iawn bod gan unrhyw un orolwg llawn o werth hyn. Er enghraifft yr hen wraig na fu allan o’i chartref ers blynyddoedd ond a ymunodd a grŵp gwau i godi arian i’r Eisteddfod. Mae grwpiau fel hyn yn aml yn cael cymaint o fwynhad fel eu bod yn parhau ymhell wedi i’r Eisteddfod ymadael â’r ardal.
Ar yr ochr economaidd, cafodd yr Eisteddfod ei sbarduno gan yr argyfwng ariannol yn 2004 i fabwysiadu newidiadau sydd wedi arwain at well sefydlogrwydd a chynllunio hirdymor. O ran caffael mae trefniadau wedi’u cofnodi’n ffurfiol ac mae’r Eisteddfod yn gweithredu ar y rhan fwyaf o’r materion a drafodwyd, megis caffael nwyddau masnach deg a rhoi pwysau ar arlwywyr i ddefnyddio cwpanau bioddiraddadwy ac anfon yr aceri lawer o garpedi o’r stondinau i gael eu hailgylchu. Nid da lle gellir gwell wrth gwrs ond maent ar y trywydd cywir.
Trafnidiaeth a defnydd ynni yw’r ddwy elfen sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd. Er bod trafnidiaeth wedi derbyn llawer o sylw negyddol mae’r Eisteddfod wedi gweithredu mewn perthynas â’r rhan fwyaf o faterion yn y gwerthusiad. Maent yn ymwybodol bod yr holl geir yn broblem ond mae system reoli ffurfiol wedi’i sefydlu gyda nodau a thargedau pendant ac mae perfformiad yn sicr yn gwella. Mae wythnos yr Eisteddfod yn wyliau haf i nifer fawr o bobl - yn aml mae hyn yn golygu nad ydynt yn teithio dramor mewn awyren.
Cafwyd sgôr isel o ran ynni oherwydd bod perfformiad yn sicr yn dirywio mewn perthynas â threuliant egni ac allyriadau CO2. Y rheswm am hyn yw bod gofynion ynni stondinwyr a disgwyliadau gwersyllwyr/carafanwyr yn cynyddu fesul blwyddyn. Mae cynlluniau ar y gweill i ddefnyddio biodanwydd yn Eisteddfod 2008 ac eleni mae melin wynt ar y maes i godi ymwybyddiaeth o ddulliau amgen.
Mae perfformiad mewn perthynas ag ailgylchu sbwriel i raddau helaeth yn dibynnu ar gydweithrediad y Cyngor Sir perthnasol. Nid yw hyn yn fater syml– mewn un Eisteddfod, er enghraifft, roedd y ddarpariaeth ailgylchu yn arbennig o dda ar y maes ond daethpwyd i’r casgliad fod hynny ar draul y ddarpariaeth i drigolion y sir dan sylw.
Gan mai gŵyl symudol ydyw, mae’r Eisteddfod yn hyderus ei bod yn gadael safleoedd mewn gwell cyflwr nag oeddent cyn iddi gyrraedd, boed yn dir amaethyddol neu’n gyn safle diwydiannol, fel yn achos Abertawe, 2006. Dros y pum mlynedd diwethaf cafodd effaith bositif ar fioamrywiaeth ym mhob safle.
Crynodeb
Crynodeb Gweithredol o Werthusiad Cynaliadwyedd yr Eisteddfod Genedlaethol (description)
Gwerthusiad
Gwerthusiad yr Eisteddfod Genedlaethol – yr adroddiad llawn
Strategaeth
Canllaw i helpu sefydliadau ddatblygu strategaeth cynaliadwyedd
Adnoddau
Adnoddau a all helpu sefydliadau ddatblygu strategaeth cynaliadwyed



