- Beth ydi DC
- Arolwg blasu
- Cymorth i'ch busnes
- Rhai syniadau
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Newyddion
- Amdanom
- Cysylltwch â ni
Mae gwasanaeth Synnwyr Busnes Business Sense yn cael ei weithredu gan dîm o arbenigwyr o’r Brifysgol ym Mangor, a rhai o staff Rhwydwaith ARENA. Rydym yn brosiect Amcan 1, wedi ein hariannu ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Brifysgol.
Mae ein gwreiddiau mewn prosiect o’r enw CCAE Cymru (Cynaliadwyedd: Cymuned, Amgylchedd ac Economi Cymru), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y prosiect oedd bod arbenigwyr ar fusnes a chynaliadwyedd o’r Brifysgol yn gweithio gydag ystod eang o gyrff o bob rhan o Gymru er mwyn diffinio union ystyr datblygu cynaliadwy i sefydliadau yng Nghymru, ac i ddatblygu dull o werthuso pa mor gynaliadwy yw gweithgaredd sefydliad penodol. Nawr, rydym ni wedi addasu’r gwerthusiad yma, ac yn ei ddefnyddio fel dull o helpu busnesau bach a chanolig ddeall eu cyrhaeddiad presennol, o ran cynaliadwyedd, ac awgrymu’r ffyrdd hawsaf o wella.
Gellir dysgu mwy am y project CCAE Cymru trwy lawrlwytho’r ddogfen “Cynaliadwyedd i Sefydliadau: Canllaw i Arfer Gorau yng Nghymru”, trwy glicio yma.
Tan yn ddiweddar, cwmnïau mawr corfforaethol yn bennaf sydd wedi blaenoriaethu datblygu cynaliadwy a’i ystyried yn ymarfer busnes da. Bellach mae’r cymhelliant i fynd i’r arfer â datblygu cynaliadwy yn cael ei drosglwyddo trwy’r gadwyn gyflenwi gan y cwmniau mawr a Llywodraeth y Cynulliad. Er mwyn tendro am lawer o gytundebau, bydd yn rhaid i ddarparwyr ddangos eu bod yn gweithredu ar y mater yma – a rydym ni yma i helpu rhoi cwmniau ar ben ffordd.
Bydd cwmniau sy’n defnyddio’n gwasanaeth yn helpu cyfraniad Cymru tuag at ddatblygu gynaliadwy ar lefel byd-eang. Yn ystod ein lawnsiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, 2006, dywedodd y gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, Andrew Davies:
“Cymru yw un o’r unig deddfwriaethau yn y bydd sydd ag ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn rhan o’i gyfansoddiad sylfaenol”.
“Mae’n ddyletswydd rydym yn cymryd o ddifif – ac rwyf yn falch fod yma ddull arloesol sy’n helpu gwireddu ein hymrwymiad i sicrhau Cymru lân, werdd”.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Synnwyr Busnes ar ffurf pdf


