- Beth ydi DC
- Arolwg blasu
- Cymorth i'ch busnes
- Rhai syniadau
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Newyddion
- Amdanom
- Cysylltwch â ni
Mae’r geiriau ‘datblygu cynaliadwy’ ar wefusau llawer ar hyn o bryd
ac mae mwy a mwy o fusnesau yn sylweddoli eu bod yn gorfod darganfod beth mae’n ei olygu iddyn’ nhw. Rydym ni yma i’ch helpu i ddarganfod yr atebion.
Cynaliadwyedd? Rhywbeth i wneud ag ailgylchu?
Na. Ond gall ailgylchu leihau eich costau, a byddem yn caru’ch gweld yn parhau i’w wneud.
Mae gweithredu’ch busnes mewn ffordd fwy cynaliadwy’n golygu rhoi ystyriaeth gytbwys a chyfartal i faterion ariannol, staff, lles pobl ac i’r amgylchedd.
Mae’r buddion yn cynnwys cyflenwyr hirdymor hapus, staff gwych sy’n mwynhau eu gwaith, cymuned leol sy’n parchu ac yn hybu’r cwmni, a chwsmeriaid sy’n caru prynu gennych. Mae’n golygu busnesau sydd yma i aros.
Mae’r cwmnïau mawr bellach wedi adnabod pwysigrwydd arferion cynaliadwy, ar y lefel byd eang ac yn lleol. Yr hyn sydd yn fwy arwyddocaol, credwn, yw eu bod yn sylweddoli pwysigrwydd dweud wrth eu cwsmeriaid beth maen nhw’n ei wneud i fod yn fwy cyfrifol tuag at bobl a’r blaned. Rhai o brif rinweddau'r brandiau mwyaf llwyddiannus ar hyn o bryd yw bod yn feiddgar, yn onest ac yn wahanol - ac mae dangos ymrwymiad clir tuag at gynaliadwyedd yn ffordd wych i gwmni gyfleu'r ddelwedd yma.
Mae plethu datblygu cynaliadwy i’ch arferion busnes, mewn modd naturiol a chyfannol, yn gwneud mwy na dangos eich bod yn gwmni clên. Gall fod yn arwydd o reolaeth effeithiol a blaengar sy’n ceisio gwelliant parhaus, a byddai pob math o risgiau’n lleihau hefyd.
Beth bynnag yw maint dy fusnes, mae meddwl am gynaliadwyedd yr un mor bwysig. Mae’r cymhelliant i fynd i’r afael a datblygu cynaliadwy yn bodoli trwy’r gadwyn gyflenwi bellach, o ganlyniad i newid yn nisgwyliadau’r cwmnïau mawr, y Cynulliad a’r sector gyhoeddus yn gyffredinol. Er mwyn tendro am lawer o gytundebau, bydd yn rhaid i gwmnïau ddangos eu bod yn deall, ac yn gweithredu ar y mater.
Dyma pam rydym ni yma, i sicrhau y gall cwmnïau llai fanteisio, am ddim, ar gefnogaeth a chyngor o’r ansawdd uchaf, yn union fel y mae’r cwmnïau mawr yn ei dderbyn


